Dydd Miwsig Cymru

Mae hi'n Dydd Miwsig Cymru ar y 05/02 felly dyma gasglu rhai o fy hoff rhestrau chwarae o Spotify i chi gael sbio arnyn nhw. Mae'r rhain yn dod o'r ddau gyfri, Miwsig a Ywain Gwynedd ac yn sicr mae'n werth cael golwg ar eu rhestrau chwarae i gyd, mae na rhywbeth ar gyfer pob achlysur yna! Dyma nhw: Y caneuon gorau os ti'n 10 oed gan Nel - dwi ddim yn gwybod pwy di Nel ond mae ganddi dast ardderchog mewn cerddoriaeth. Gweithio o Adre - rhestr o ganeuon i gadw cwmni i chi tra da chi'n gweithio o adre. Yn y bar - dwi'n gwybod does na neb yn mynd i far, na chaffi, na bwyty dyddia yma ond dyma restr chwarae o ganeuon i'w rhoi mlaen yn y gegin i esgus bod yn rhywle arall. 2020 - rhai o ganeuon Cymraeg gorau 2020. Ma na glasuron modern yn fama ac rhai o ffefrynau fy mab 4 oed. Dolig - ydy, dwi'n gwybod ei bod hi'r amser hollol rong o'r flwyddyn ar gyfer rhestr chwarae Dolig ond mi oedd hwn ar repeat yn tŷ ni fis Rhagfyr. Reggae Cymraeg - ne...