Penblwydd Hapus Geraint Jarman
Dechrau'r wythnos hon roedd arwr y Sin Roc Gymraeg, Geraint Jarman yn dathlu ei benblwydd yn 70. Dyma gyfweliad efo fo ar wefan y BBC: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/53802556 Mae Geraint Jarman yn un o'r rhain blaenllaw wnaeth ddatblygu gwir arddull pop drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth i amlygrwydd gyda'r band Bara Menyn (gyda Heather Jones a Meic Stevens) cyn rhyddhau ei albwm unigol Gobaith Mawr y Ganrif yn 1976. Gwnaeth yr albwm yma argraff mawr gan ei bod yn dangos dylanwad reggae cryf. Dyma dair albwm gan Geraint Jarman i roi cynnig arni: Hen Wlad fy Nhadau (1978) - yr albwm sy'n agor gyda un o draciau mwya eiconig yr iaith Gymraeg, Etheopia Newydd . Rhiniog (1992) - dwi'n cofio Tracsiwt Gwyrdd yn cael ei chwarae'n ddibaid ar y radio pan o'n i'n blentyn. Brecwast Astronot (2011) - un o albymau diweddar Jarman yn llawn traciau cofiadwy ac yn dal i swnio'n fodern ac arloesol. Mae mwy o wybodaeth ar Geraint Jarman yma: https://c...