20 Mlynedd ers Rhyddhau Mwng
Mae heddiw'n 20 mlynedd i'r diwrnod ers i'r albwm mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg gael ei rhyddhau, sef Mwng gan y Super Furry Animals. Fe gyrhaeddodd yr albwm, sy'n cynnwys caneuon Cymraeg yn unig, rhif 11 yn siart yr albyms yn yr DU a chael sylw enfawr ledled y byd. Teithiodd y band ar draws y byd gan berfformio caneuon o'r albwm i ganmoliaeth uchel. Mae llawer o'r caneuon yn cadw at y fformat pop-gwerin syml sydd i'w glywed yng nghaneuon y grwp. Ond yn wahnaol i albyms eraill y band, mae'r trefnianau ar Mwng yn cael eu cadw'n eithaf syml hefyd. Heb os, dyma un o'r albyms sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y iaith Gymraeg a Chymreictod, gan ysbrydoli pobl ar hyd a lled i byd i ddysgu am y wlad a'r iaith. Mae hi'n bwysig sylwi dylanwad yr albwm ar gerddoriaeth Gymraeg, un o'r pethau cyntaf i Band Pres Llareggub ei ryddhau oedd eu fersiwn nhw eu hunain o'r albym gyfan. Felly i ddathlu heddiw beth am wrando ar Mwng i gyd ar e...